Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth i gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 15.2 mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) (ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad) bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o reoliadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan bwerau a roddwyd iddynt gan
ddarpariaethau ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”) a’u bwriadwyd i ddatblygu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
O dan Ran 2 o’r Mesur, bydd cleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yng Nghymru yn cael cydgysylltydd gofal penodol. Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer y meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gellir penodi person yn gydgysylltydd gofal.
Mae’r Mesur hefyd yn darparu y bydd darparwyr gwasanaethau (Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) yn gweithredu mewn modd cydgysylltiedig i wella effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir i’r claf.
Mae’r Mesur yn sicrhau y bydd pob claf unigol yn cael cynllun gofal a thriniaeth wedi’i teilwra a ddatblygir gan y cydgysylltydd gofal mewn partneriaeth â’r claf a bydd y cydgysylltydd gofal yn goruchwylio’r cynllun gyda golwg ar gyflawni’r canlyniadau y mae’r gwasanaethau i’r claf wedi’u cynllunio ar gyfer eu cyflawni.
Mae’r darpariaethau hyn yn unigryw i Gymru.
O dan y weithdrefn gadarnhaol y mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu
gwneud ac felly cânt eu trafod gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
14 Tachwedd 2011